Vladimir Putin
Mae gweddw’r ysbïwr Alexander Litvinenko gafodd ei ladd yn Llundain yn 2006 wedi dweud bod llofruddiaeth Boris Nemtsov ym Mosgo yn rhybudd i beidio gwrthwynebu Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Dywedodd Marina Litvinenko wrth Radio 4 fod llywodraeth Rwsia’n barod i “ladd unrhyw un sy’n ceisio dweud unrhyw beth” yn eu herbyn nhw.

Roedd Boris Nemtsov yn feirniadol o Vladimir Putin a’r gwrthdaro yn yr Wcráin yn y dyddiau cyn ei lofruddiaeth.

Cafodd Nemtsov ei saethu bedair gwaith yn ei gefn ar bont ger y Kremlin, oriau’n unig wedi gorymdaith yn gwrthwynebu’r sefyllfa yn yr Wcráin.

Dywedodd Marina Litvinenko bod Nemtsov a’i gefnogwyr yn cael eu hystyried yn “elynion Rwsia”.

“Yn enwedig ar ôl y rhyfel gyda’r Wcrá, mae’r awyrgylch yn Rwsia’n ymsodol iawn.

“Pan welwch chi’r delweddau’n dweud ei fod e’n elyn Rwsia, fe fydd pobol Rwsia yn ei gasáu e.”

“Cyfrifoldeb Mr Putin a’r llywodraeth yw’r cyfan sydd wedi digwydd yn Rwsia, fe wnaeth e adeiladu’r wlad hon a ddaeth yn ganolbwynt gwrthdaro rhwng Rwsia a’r Wcráin, ac yn broblem fawr gyda’r Gorllewin, ac mae’r cyfrifoldeb yn nwylo’r person hwn a’i lywodraeth.”