Hefin Jones sy’n amau cymhellion Obama a Cameron yn Yr Wcrain…

Wrth i arweinwyr Ffrainc, Yr Almaen a Rwsia greu cytundeb heddwch ar y cyd gydag Wcrain, ymateb rhesymol a doeth Prydain ac America i’r newyddion da oedd datgan mwy o sancsiynau ar Rwsia. Nid oedd Cameron nac Obama yn rhan o’r trafodaethau felly efallai eu bod, fel y milwr enwog o Siapan arhosodd yn y goedwig am 30 blynedd wedi diwedd y rhyfel, yn dal i ymladd yn ddi-ddallt, gan ddatgan eu bod yn gyrru milwyr swyddogol i ‘helpu’ Kiev, yn ychwanegol at y rhai answyddogol wrth gwrs.

Cafodd newyddiadurwr lleol syndod tra’n ceisio cwestiynu ymladdwr ar gamera i dderbyn yr ateb ‘get away from me’ mewn acen fel sydd ar y ffilmiau. Mae rheswm pam fod mygydau ar y milwyr pan fod camera o gwmpas. I daflu amheuaeth at ymrwymiad Kiev hefyd at y cytundeb heddwch, pwy oedd yn Washington yr wythnos yma ar wahoddiad Americanwyr i ddarbwyllo Amercianwyr eraill i daflu arfau at y sefyllfa oedd Andriy Parubiy, Gweinidog ‘amddiffyn’ Llywodraeth Yr Wcrain am chwe mis ac un o sefydlwyr Svoboda.

Mae’r gair ‘Nazi’ yn un o’r rhai caiff ei daenu o gwmpas mor ysgafn nes ei fod yn aml yn colli ei ystyr, ond mae Svoboda, a mudiadau Natsi eraill sy’n cynorthwyo byddin Yr Wcrain i ymosod ar Lugansk a Donetsk fel Azov a’r Adain Dde, yn haeddu’r label yn llawn. Mae llinach unionsyth o’r Ail Ryfel Byd a’u harwr Stepan Bandera, dyn lleol y Natsïaid a wnaeth ei waith yn drylwyr yn y wlad. Ond na phoener, bu i lysgennad Yr Wcrain ar deledu’r Almaen sicrhau’r gynulleidfa nad oedd dim i’w boeni yn ei gylch gan fod y Natsïaid hyn, fel a’u galwodd ei hun, yn cael eu rheoli’n swyddogol gan fyddin Yr Wcrain.

Nid yw’r cydweithio yn syndod, gan fod America a Phrydain wastad wedi ffafrio ffasgaeth a Natsïaeth dros hunangynhaliaeth a Sosialaeth, fel gwelwyd gyda Ffranco yn Sbaen a chefnogwyr Hitler yn Yr Eidal a Groeg yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae Azov a’r Adain Dde yn barod wedi gwrthod y cadoediad er mwyn parhau a’u gwaith o dargedu’r cyhoedd yn y dwyrain. Lai na wythnos ar ôl y cadoediad mae Kiev wedi mynd i ysbryd y peth drwy ddiffodd y cyflenwad nwy i’r dwyrain, lle mae siaradwyr Rwseg Yr Wcrain yn byw, yn llwyr. Er, mae’n newid i’r cyfarchiad cynnes roddodd y ‘Prif Weinidog’ newydd Yatsenyuk iddynt flwyddyn yn ôl:- ‘Mi fydd y ddaear yn llosgi o dan eu traed.. a bydd nunlle iddynt ddianc a neb i’w hachub, ddim hyd yn oed Rwsia’.

Pwy sy’n gorthrymu pwy?

Mae nifer o Gymry wedi datgan fod ‘Rwsia yn ceisio dinistrio iaith yr Wcrain’ yn ddiweddar, sy’n dangos fod yr ymgyrch bardduo y tro hwn wedi cyrraedd ryw binacl yng nghrefft propaganda. Yn naturiol mi fyddai Cymry cadarn yn casáu gorthrwm iaith, ond pwy wir sy’n gorthrymu yno?

Awn heibio’r ffaith nad oes gan Moscow dylanwad ym mholisi iaith Yr Wcrain ers cryn amser gan ei bod yn wlad annibynnol ers 1992, a fod 35 iaith swyddogol yn Rwsia heddiw. Traean o’r Wcraniaid sy’n siarad Rwseg, gyda dau draean yn siarad Wcraeneg. Fel rhan o’r cytundeb heddwch wythnos yn ôl (nad oedd Cameron nac Obama yn rhan ohono) un o’r telerau oedd fod yr iaith Rwseg yn cael ei chydnabod fel iaith swyddogol yn Yr Wcrain, fel ydoedd cyn y coup flwyddyn yn ôl.

Nid oedd manylion y cytundeb i’w cael ar newyddion Lloegr gan y byddai wedi gorfod cydnabod, ymysg pethau eraill, fod y Rwseg wedi ei gwahardd gan y gyfundrefn newydd yn Kiev fel rhan o’u hymgyrch i geisio hel trigolion dwyrain Yr Wcrain o’r wlad…a arweiniodd yn uniongyrchol at y Crimea yn dychryn a chynnal refferendwm ar dorri’n rhydd, cyn un arall ar ymuno â Rwsia. Byddai’n dda i’r rhai sy’n cyhuddo Rwsia o ‘ddwyn’ y Crimea edrych ar faint sy’n marw yno o gymharu â’i chymdogion yn Lugansk a Donetsk.

Mae’r reddf naturiol i ochri â’r un lleiaf yn golygu fod angen tyllu’n ddyfnach na bwletinau’r BBC i ddeall yr hyn sy’n digwydd. Caiff ei bortreadu fel Rwsia Fawr v Wcrain Fach, tra gellid ei bortreadu yn fwy realistig ar lawr gwlad fel NATO yn erbyn trigolion Donetsk a Lugansk. I helpu eu hachos mae Kiev wedi gwneud ymuno â’r fyddin yn orfodol. Mae nifer o bentrefi gorllewin Yr Wcraen wedi hel swyddogion recriwtio ymaith gyda’r neges eu bod wedi cael llond bol ar y rhyfel, ac mae Kiev yn mynnu fod Sbaen yn gyrru Wcraniaid ifanc a fabwysiadwyd yno yn ôl er mwyn iddynt ymuno â’r fyddin. A hyn mewn gwlad â phoblogaeth o 45 miliwn, prin yn un o gywion ymysg gwledydd y byd.

Os am gymharu Cymru a Lloegr gyda’r Wcrain a Rwsia, beth am ei wneud hi’n iawn? Dychmygwch fod Cymru’n wlad annibynnol fawr ers ugain mlynedd, gyda’r di-Gymraeg yn falch o fod yn Gymry a 65% yn siarad Cymraeg. Ond mae Lloegr wedi pechu gwlad bell bwerus, a beth mae honno yn ei wneud yw cydweithio â’r bobl mwyaf eithafol o gul a pheryglus a hiliol yn y wlad drws nesaf ac yn eu hariannu yn ddi-ben-draw i godi twrw. Fwyaf sydyn mae’r llywodraeth ym Mae Caerdydd yn gwynebu miloedd o nytars yn llosgi’r lle, gyda chyfryngau’r wlad bell oedd yn taflu’r arian yn mwydro am ‘chwyldro’ a ‘rhyddid’ a ‘democratiaeth’ i werthu’r syniad.

Yna, wedi gorchfygu’r heddlu a cholbio aelodau’r senedd maen nhw yn meddiannu pŵer a mynd ati i geisio taflu pawb nad sy’n siarad Cymraeg allan o’r wlad, gan fomio’r ardaloedd hynny a gwahardd pob iaith oni bai’r Gymraeg. Caiff yr uchod ei guddio gan y wlad bwerus, ac mae eu prosiect o danseilio Lloegr yn mynd rhagddo’n rhagorol. Ar ôl blynyddoedd o siapio meddylfryd y cyhoedd i ddirmygu Lloegr gyda rhes o adroddiadau ffug a hanner gwir mae’r wlad bell bwerus yn creu straeon am danciau Lloegr yn ymosod ar Gymru fach ac mae pawb sydd dan ddylanwad cyfryngau’r wlad bwerus yn coelio.

Rhyfel seicolegol

Mae’r taflu baw yn ddiflas a diddiwedd ond yn effeithiol. ‘Where next for Putin?’ gwaeddai’r tudalennau blaen yn yr archfarchnad. ‘Why Putin is the New Hitler’ esbonient yr wythnos wedyn. Mae’r rhyfel seicolegol wedi hen ddechrau, a gellir ond dychmygu y gweiddi gan y cyfryngau Saesneg pe bai’r holl bobl ddu sydd wedi eu saethu’n y misoedd diwethaf yn America wedi eu saethu gan heddlu Rwsia, nid America. Yn 2007 adeiladodd America, dan esgus NATO, system amddiffyn taflegrau anferth yn Romania a’r Weriniaeth Siec a’i bwyntio tua’r dwyrain gan fynnu mai Iran yr oeddent yn bryderus yn ei gylch. Heddiw gwelir fod Putin yn iawn i chwerthin yng ngwyneb y newyddiadurwr a ailadroddodd hyn wrtho mewn cyfweliad, gan ei fod bellach yn amlwg ei fod wedi ei osod er mwyn ceisio gwneud yr oblygiadau o ymosod ar Rwsia yn llai costus i’r ymosodwyr.

Yn senedd yr Unol Daleithau yr wythnos diwethaf cyflwynwyd yr achos tros werthu biliynau o arfau i’r Wcrain, gan ddangos lluniau o danciau. Profwyd yn eithaf sydyn mai lluniau o 2008 oeddent, a’r tanciau hynny yn bell o’r Wcrain. Nid oedd dim arall ganddynt. Does yr un llun o danciau Rwsia yn Yr Wcrain er fod y cyhuddiad yn dod yn fisol. A’r wythnos yma gwelwyd byddinoedd America a Phrydain yn darparu 100 gwaith mwy o luniau o’u tanciau a’u milwyr hwy tra’n chwifio’u baneri 300 llath o’r ffin â Rwsia yn Estonia wrth i’w harweinwyr sgrechian am ‘Russian aggression’ a ‘Russian encroachment’.

$17.5 biliwn i’r Wcrain

Mae’r International Monetary Fund, teclyn goruchafiaeth ariannol rhyngwladol gwledydd NATO i bob pwrpas, newydd roi $17.5 biliwn i’r Wcrain, gan sicrhau y bydd llywodraeth y wlad yn cario ymlaen gyda’r polisïau roddwyd ar waith gan y concwerwyr o leihau gwario cyhoeddus ar bensiynau ac addysg a iechyd ac agor y diwydiannau cyhoeddus a’u asedau i’r sector breifat ‘rhyngwladol’. Un ddeddf sydd wedi ei ddiddymu yw’r un oedd yn cyfyngu faint o dir y cai cwmnïau tramor ei brynu. Yn dilyn y rhyddfrydiaeth newydd yno mae’r cwmni Americanaidd Monsanto wrthi’n meddiannu hynny o dir a fedran nhw.

Bu i’r Unol Daleithiau a Saudi Arabia ill dau fygwth Rwsia am weithio i atal yr ymosodiad ar Syria yr oedden nhw yn ei awchu. Yn achos Saudi Arabia, y bomiau cyn y Gemau Gaeaf Olympaidd yn Sochi oedd eu hanrheg, tra yn achos yr Unol Daleithiau y dinistr yn Yr Wcrain ydoedd. Roedd hefyd angen dial am roi lloches i Edward Snowden, ond prif reswm arall yw fod BRICS, y gytundeb rhwng Brasil, Rwsia, India, Tseina a De Affrica sy’n cynnwys banc datblygiad rhyngwladol newydd i gystadlu yn erbyn y ‘World Bank’ honedig caiff ei ddominyddu gan yr Unol Daleithiau, yn mynd rhagddo’n llawer rhy esmwyth yng ngolwg America a Lloegr.

Erbyn heddiw byddai etholiad arall wedi digwydd yn Yr Wcrain pe na bai’r llywodraeth ddemocrataidd wedi ei dymchwel. Wrth gwrs, roedd hynny’n llawer rhy hwyr er mwyn gorfodi’r cytundebau ariannol anffafriol a wrthodwyd gan Yanukovych, a’n llawer rhy hwyr i ddial ar Rwsia, a’n llawer rhy bwysig i’w adael i rywbeth dibwys fel pleidleisiau’r trigolion.

Mae’r seicopaths sy’n rhedeg y sioe yn fodlon cychwyn rhyfel anferth er mwyn cadw eu goruchafiaeth, ond yn gyntaf mae angen twyllo’r cyhoedd drwy wasg a newyddiadurwyr sydd a’u hanner yn rhy dwp i ddeall y gêm a’r hanner arall yn ei chwarae.

Mae’n enghraifft arall lle mae’r cyfryngau Saesneg a’r gwleidyddion yn cyflwyno du yn wyn a gwyn yn ddu. I’r rhai sy’n methu coelio, gofynnwch dri cwestiwn: Lle mae’r ymladd, pwy sy’n elwa a phwy sy’n marw?