Mae heddlu Canada wedi cyhoeddi sut yr oedd hi’n fwriad gan ddyn a dynes ifanc i ladd “cymaint o bobol ag yr oedd hi’n bosib” mewn ymosodiad mewn canolfan siopa yn Halifax, Nova Scotia.
Y bwriad, wedyn, oedd eu lladd eu hunain.
Yn ol yr heddlu, roedd y ddau wedi dechrau trafod mewn stafell sgwrsio ar y we; yn trafod fawr ddim ond eu hobsesiwn efo llofruddiaeth a marwolaeth; ac roedd ganddyn nhw ill dau nifer o luniau o ddigwyddiadau lle’r oedd nifer fawr o bobol wedi’u lladd.
Fe gafodd y naill – dynes Americanaidd 23 oed o Geneva, Illinois – ei harestio ym maes awyr Halifax, cyn cyfadde’ bod cynllwyn ‘Valentine’s Day Massacre’ ar droed.
Fe laddodd y llall – dyn 19 oed – ei hun pan amgylchynodd yr heddlu ei gartref yn ardal Timberlea, Halifax.
Mae heddlu Canada yn dweud nad oedd y cynllwyn yn un terfysgol.