Dug Caeredin
Mae Prif Weinidog Awstralia wedi gorfod amddiffyn ei benderfyniad i anrhydeddu Dug Caeredin a’i urddo’n farchog.

Bu Tony Abbott yn ymateb i’r cwestiynau heddiw, ar Ddiwrnod Awstralia, wedi iddo gael ei feirniadu am roi anrhydedd uchaf y wlad i aelod o deulu brenhinol Prydain.

Mae Dug Caeredin, sy’n 93 mlwydd oed, wedi cael ei urddo’n farchog am ei oes o  ddyletswydd a gwasanaeth, dywedodd Tony Abbott.

Ond mae rhai o wleidyddion blaenllaw’r wlad, ynghyd â llawer o ddefnyddwyr gwefannau cymdeithasol fel Twitter, wedi lleisio eu gwrthwynebiad i’r cyhoeddiad.

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Bill Shorten, fod rhai yn meddwl bod y cyhoeddiad yn jôc. Mae ymateb ar y we yn amrywio o anghrediniaeth i wneud sbort am ei ben.

Ond mae Tony Abbott yn mynnu nad oes  llawer o “awdurdod na hygrededd” i’r sylwadau.

Yn 2002, achosodd y Tywysog Philip ffrae yn ystod taith swyddogol o Awstralia pan ofynnodd i ddyn busnes brodorol os oedden nhw’n dal i “daflu gwaywffyn at ei gilydd”.