Mae merch yn ei harddegau a geisiodd fynd i Syria er mwyn helpu grwp terfysgol IS, wedi cael ei dedfrydu i dreulio pedair blynedd yng ngharchar.

Fe glywodd Shannon Conley, 19, o Denver, Colorado, am ei thynged dan lygaid ei rhieni. Roedd hi’n gwisgo penwisg patrymog ynghyd a’i dillad carchar.

Ym mis Medi y llynedd, roedd Shannon Conley wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad o ddarparu deunydd sy’n cefnogi sefydliad terfysgol tramor.