Yng Nghanada, mae dyn oedd a chefndir troseddol wedi lladd chwe oedolyn a dau o blant cyn lladd ei hun yn Edmonton, Alberta.

Dywedodd pennaeth yr heddlu Rod Knecht ei bod yn ymddangos bod y dyn wedi eu llofruddio mewn achos o drais domestig.

Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn ond maen nhw’n dweud ei fod yn hysbys i’r heddlu a bod ganddo record droseddol yn dyddio nôl i 1987.

Cafodd Cindy Duong, 37, ei saethu’n farw mewn tŷ yn Edmonton ddydd Llun, tra bod dau ddyn a thair dynes rhwng 25 a 50 oed a dau blentyn o dan 10 oed wedi’u darganfod yn farw rai oriau’n ddiweddarach mewn tŷ yng ngogledd ddwyrain Edmonton.

Cafwyd hyd i’r dyn arfog yn farw mewn bwyty yn nhref Fort Saskatchewan yn Edmonton fore dydd Mawrth. Roedd wedi lladd ei hun.

Mae disgwyl i archwiliadau post mortem gael eu cynnal yfory.