Oscar Pistorius
Mae barnwr yn Ne Affrica wedi dyfarnu y gall erlynwyr apelio yn erbyn dyfarniad Oscar Pistorius.

Ym mis Hydref cafwyd yr athletwr yn ddieuog o lofruddio ei gariad Reeva Steenkamp ond yn euog o ddynladdiad a chafodd ddedfryd o bum mlynedd o garchar.

Daeth cyhoeddiad y Barnwr Thokozile Masipa mewn llys yn Pretoria bore ma ond mae hi wedi dweud na all yr erlyniad herio hyd y ddedfryd a gafodd Pistorius.

Roedd Pistorius wedi saethu ei gariad yn farw yn ei gartref ar Ddydd San Ffolant y llynedd. Dywedodd ei fod yn credu bod lleidr yn y tŷ ond mae’r erlyniad wedi dadlau ei fod wedi lladd Reeva Steenkamp yn dilyn ffrae ac y dylid ei gael yn euog o’i llofruddio.

Fe fydd yr achos nawr yn mynd gerbron Goruchaf Lys Apêl De Affrica.