Mae heddlu yn America wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i honiadau gan fenyw fod y comediwr, Bill Cosby, wedi ymosod yn rhywiol arni pan oedd hi’n 15 oed.

Mae Judy Huth, yn siwio Bill Cosby, 77, ac mae hi hefyd wedi cyfarfod efo Heddlu Los Angeles i drafod yr honiadau.

Mae ei honiadau yn yr achos sifil yn erbyn Bill Cosby yn dweud iddo ei gorfodi hi i berfformio gweithred rywiol arno yn un o lofftydd y Playboy Mansion tua’r flwyddyn 1974, pan oedd hi dan oed.

Dydi Heddlu Los Angeles ddim wedi rhyddhau mwy o fanylion ynglyn a’r ymchwiliad.

Ddydd Iau, fe alwodd y pennaeth Charlie Beck ar i bobol gysylltu gyda’r heddlu os oedden nhwthau’n credu iddyn nhw ddiodde’ dan law Bill Cosby.