Fideo ail-afael o wefan Bill Cosby
Nyrs o Florida yw’r bedwaredd ddynes i gyhuddo’r actor Bill Cosby o’i threisio, gan ddweud ei fod wedi rhoi cyffuriau iddi ac yna gorfodi ei hun arni yn  ôl yn 1976.

Yn ôl Therese Serignese, fe ddigwyddodd yr ymosodia yn Las Vegas pan oedd hi’n 19 oed.

Dyma’r pedwerydd cyhuddiad o drais rhywiol yn erbyn Bill Cosby mewn ychydig dros wythnos, ond mae’r gŵr 77 oed yn gwadu’r holl gyhuddiadau.

Fe ddaeth y fflyd cyhuddiadu wrth iddo geisio ail afael yn ei yrfa gomedi – cyfres deledu ganddo oedd rhaglen fwya’ poblogaidd yr Unol Daleithiau am bum mlynedd yn olynol yn y 90au.

Defnyddio cyffuriau

Dywedodd Therese Serignese fod y seren deledu wedi ei threisio hi yn 1976 ar ôl sioe yn Las Vegas, ar ôl mynd â hi i gefn y llwyfan a rhoi gwydraid o ddŵr a dwy dabled iddi eu llyncu.

“Y peth nesaf dw i’n ei gofio yw teimlo effaith y cyffuriau, bod heb fy nillad, ar fy nhraed,” meddai Therese Serignese. “Roedd Bill Cosby y tu ôl i mi, yn cael rhyw gyda fi.”

Yn ôl Therese Serignese, fe arhosodd hi gyda Bill Cosby am rai dyddiau wedi’r digwyddiad, er nad oedd hi’n medru dweud a gafodd y ddau ohonyn nhw ryw eto yn y cyfnod hwnnw.

Dywedodd bod y ddau wedi dod i gyswllt â’i gilydd ambell waith dros y blynyddoedd ers hynny hefyd.

Straeon tebyg

Mae’r stori’n debyg i gyhuddiadau’r tair dynes arall sydd wedi dweud bod Bill Cosby wedi eu cam-drin yn rhywiol gan ddefnyddio cyffuriau.

Dywedodd Barbara Bowman ei bod hi’n 17 oed pan roddodd Bill Cosby gyffuriau iddi hi, a’i bod hi’n bendant ei fod wedi ei threisio.

Yn ôl Joan Tarshis, oedd eisiau ysgrifennu comedi, fe roddodd y seren deledu ddiod iddi a’i gorfodi i roi cyfathrach eneuol iddo.

Ac yn ôl yr actores a’r model Janice Dickinson, fe roddodd Bill Cosby win coch a thabled iddi pan oedden nhw gyda’i gilydd yn Llyn Tahoe, California yn 1982.

Mae cyfreithwyr Bill Cosby wedi gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.