Mae tirlithriad wedi gorchuddio adeilad lle’r oedd pobol yn byw yn ne’r Swistir, gan ladd dau o bobol ac anafu 4. Mae nifer hefyd ar goll, er nad yw’r awdurdodau yn gallu cadarnhau faint yn union.

Fe ddigwyddodd y tirlithriad yn gynnar fore heddiw ym mhentre’ Davesco, ger dinas Lugano, pan achosodd glaw trwm i fryn gwympo a gorchuddio adeilad gyda thunelli o fwd.

Mae gweithwr achub, yn ogystal a’r gwasanaethau brys, yn y fan a’r lle yn chwilio am bobol sydd ar goll.

Mae’r pedwar o bobol a gafodd eu hanafu wedi’u cludo ar frys i ysbyty gerllaw.