Mae llosgfynydd mwya’ bywiog Alasga wedi dechrau poeri lafa i’r awyr, gan ryddhau hefyd gwmwl o ludw i’r awyr.

Mae mynydd Pavlof ar benrhyn diarffordd Alasga, tua 625 milltir i’r de-orllewin o Anchorage. Mae’r gymuned agosa’ tua 40 milltir i ffwrdd.

Mae cwmwl o ludw yn ymestyn am tua 125 milltir.

Fe allai’r ffrwydriad bara rhai wythnosau, os nad misoedd, meddai sylwebwyr.