Bethan Gwenllïan
Bethan Gwenllïan sydd yn trafod dyfodol gwleidyddol Catalwnia, ar drothwy pleidlais anffurfiol ar annibyniaeth …

Dydd Sul 9 Tachwedd fe fydd pobl Catalwnia’n cael cyfle i leisio barn ar y pwnc mwyaf pwysig yng ngwleidyddiaeth y wlad y ganrif hon – a ddylai hi gael y cyfle i fod yn annibynnol o weddill Sbaen.

Gyda thros filiwn o bobl yn mynychu rali annibyniaeth a gynhaliwyd ym Marcelona ddeufis yn ôl, mae’n edrych yn debygol y bydd canlyniad y bleidlais yn newid strwythur gwleidyddol Sbaen am byth; bo’r canlyniad yn ie neu na.

Yr ‘ymgynghoriad’

Ar 12 Rhagfyr 2013 fe gytunodd y pleidiau a’r llywodraeth Gatalanaidd ar sut i gyflwyno’r bleidlais ar 9 Tachwedd eleni, gan ofyn dau gwestiwn – a ddylai Catalwnia fod yn wladwriaeth, ac os ie, a ddylai Catalwnia fod yn wladwriaeth annibynnol?

Mae hawl i bleidleisio gan bawb sy’n hanu o Gatalwnia, dim ots lle maen nhw’n byw o fewn neu du allan i Sbaen, a hefyd i bobl o wledydd tramor sydd wedi symud i fyw i Gatalwnia.

Gyda phrotestiadau ar draws yr ardal, ac yn enwedig ym Marcelona, mae’r peth wedi tyfu’n ddigwyddiad hanesyddol yng ngwleidyddiaeth Sbaen.

Ond ers hynny mae llywodraeth Sbaen wedi herio’r bleidlais yn gyfreithiol, gan ddweud nad oes hawl gan Gatalwnia i gynnal refferendwm ar annibyniaeth heb ganiatâd Madrid.

Canslwyd y refferendwm swyddogol felly, ond mae llywodraeth Catalwnia yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gynnal pleidlais answyddogol a’i galw hi’n ‘ymgynghoriad’.

Er bod llywodraeth Sbaen wedi ceisio herio hyn hefyd,  mae arlywydd Catalwnia Artur Mas yn mynnu y bydd yr ymgynghoriad yn mynd yn ei blaen.

Bydd hi’n gyfle felly i’r bobl leisio eu barn, a barn na all Sbaen ei hanwybyddu.

Yr effaith ar Sbaen

Un o’r rhesymau nad yw Sbaen am weld Catalwnia yn mynd  yn annibynnol yw bod gan Gatalwnia economi cryf sy’n helpu ariannu economi Sbaen, sydd wedi wynebu llawer o broblemau ers argyfwng ariannol 2007/08.

Mae CMC (Cynnyrch Mewnwladol Crynswth) Catalwnia yn uwch nag unrhyw ardal arall o Sbaen. Yn 2011 roedd CMC y pen Catalwnia yn €27,430, uwch na CMC y pen yn Sbaen (€23,100) a chyfartaledd gwledydd yr Undeb Ewropeaidd (€25,200).

Mae ffigwr CMC y pen Catalwnia yn debyg i rai gwledydd fel Ffrainc a’r DU, rhai o wledydd cyfoethoca’r byd.

Problemau Catalonia

Fodd bynnag, gyda dyled genedlaethol o dros €42 biliwn mi fuasai Catalwnia annibynnol yn creu straen ar Fanc Canolog Ewrop, ac o bosib byddai rhaid i wledydd Ewrop gynnig ‘bailout’ iddi.

Mi allai’r bailout hwnnw greu straen ar berthynas Catalwnia a gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd, a hynny wrth gwrs gan gymryd y byddai Catalwnia’n cael caniatâd i ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd yn y lle cyntaf.

Mae rhai o fewn yr Undeb eisoes wedi awgrymu y byddai Catalwnia annibynnol yn gorfod gadael a cheisio ailymaelodi, tebyg i rai o’r negeseuon a glywyd am yr Alban pan oedd hithau’n cynnal refferendwm ar annibyniaeth.

Mewn gwlad gyda system ddemocrataidd anuniongyrchol, ni allwn wadu bod hawl gan y bobl i ddewis eu cynrychiolwyr a hefyd felly’r hawl i ddewis lled yr ardal lle maent yn ei gynrychioli.

Felly mi ddylai’r ymgynghoriad Catalanaidd anfon neges glir i wleidyddion Sbaen ac Ewrop ei bod hi’n bryd rhoi cyfle i ardaloedd fel Catalwnia, gydag iaith a meddylfryd eu hunain, gael mwy o hawliau a phwerau dros eu dyfodol.

Neu a fydd gwendid economi Sbaen a chyfoeth Catalwnia yn esgus i wadu hyn?

Mae Bethan Gwenllïan yn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Sciences-Po Bordeaux yn Ffrainc.