Oscar Pistorius
Mae’r erlyniad yn achos Oscar Pistorius yn dweud bod apêl wedi cael ei gyflwyno yn erbyn hyd y ddedfryd a gafodd yr athletwr am saethu ei gariad.

Mae Awdurdod Erlyniad Rhyngwladol De Affrica yn herio penderfyniad y barnwr Thokozile Masipa i beidio â chael Oscar Pistorius yn euog o lofruddio ei gariad Reeva Steenkamp, wedi iddo ei saethu yn eu cartref.

Yn hytrach, cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar am gyhuddiad llai o ddynladdiad.

Bythefnos ar ôl i’r achos ddod i ben, dywedodd yr erlyniad eu bod wedi cyflwyno’r apêl yn erbyn y ddedfryd.

Maen nhw’n credu y dylai Pistorius wynebu o leiaf 15 mlynedd yn y carchar.