Mae llong bleser a darodd y creigiau ar arfordir gogledd Norwy ychydig fisoedd yn ôl, wedi gwneud yr un peth eto… a hynny yng ngolwg y pier lle’r oedd digwydd iddi lanio.

Mae gwasanaethau achub Norwyeg yn dweud fod y teithwyr wedi cael gadael y llong Marco Polo sydd wedi’i chofrestru yn y Bahamas. Roedd mwy na 1,000 o bobol ar ei bwrdd pan darodd y creigiau yn ardal Lofoten yn gynnar fore heddiw.

Y gobaith yw y bydd hi’n bosib tynnu’r llong 176m o hyd yn rhydd unwaith y daw hi’n llanw uchel yn ddiweddarach heddiw.

Does yna ddim adroddiadau am bobol wedi’u hanafu, a does yna ddim difrod amlwg i’r llong ei hun chwaith.