Mae awdurdodau’r Almaen yn dweud iddyn nhw arestio dyn ar amheuaeth o fod yn aelod o’r grwp terfysgol ETA o Wlad y Basg.

Mae’r dyn wedi bod ar herw er 2004.

Mae llefarydd ar ran heddlu talaith Hesse yn dweud fod y dinesydd Sbaenaidd, 49 mlwydd oed, wedi’i arestio yn ninas Mannheim.

Mae’n cael ei amau o fod yn arbenigwr ar drefnu digwyddiadau i ETA, ac mae’n cael ei gyhuddo o brynu ffrwydron ar gyfer ymosodiadau yn enw’r mudiad.

Mae ETA wedi cyhoeddi “cadoediad parhaol” ers 2011. Ond mae’n cael ei feio am ladd tua 830 o bobol yn ystod ei ymgyrch tros sefydlu “gwlad” swyddogol i’r Basgwyr yng ngogledd-ddwyrain Sbaen ac yn ne-orllewin Ffrainc.