Oscar Pistorius yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012
Mae asiant Oscar Pistorius yn awyddus i drefnu cyfarfod i drafod dyfodol yr athletwr ym myd athletau.

Wedi i’r para-athletwr gael ei garcharu ddydd Llun am ladd ei gariad Reeva Steenkamp, dywedodd pwyllgor Olympaidd De Affrica na fyddai modd iddo gystadlu am bum mlynedd – y ddedfryd a gafodd gan lys yn Pretoria.

Mae disgwyl i gyfreithwyr gyfarfod â Pistorius yn y carchar yfory yn y gobaith o drefnu cyfarfod â’i gynrychiolwyr ym myd athletau wedi hynny.

Dywed ei asiant Peet van Zyl ei fod e a hyfforddwr Pistorius, Ampie Louw yn awyddus i drafod ei ddyfodol cyn gynted â phosib.

Hyd yn oed pe bai Pistorius yn cael gadael y carchar ar ôl 10 mis i dreulio gweddill ei ddedfryd dan oruchwyliaeth yn ei gartref, ni fyddai hawl ganddo gystadlu ar y trac am bum mlynedd, sef hyd y ddedfryd lawn.

Mae penderfyniad Conffederasiwn Pwyllgor Olympaidd De Affrica yn cyd-fynd â rheolau’r Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol.

Dydy’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol na’r IAAF ddim wedi gwneud sylw gan fod Oscar Pistorius yn dilyn rheolau para-athletau, nid athletau.

Pistorius oedd y para-athletwr cyntaf ar lafnau i redeg ochr yn ochr ag athletwyr heb anabledd yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.