Oscar Pistorius
Mae Oscar Pistorius wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar am ladd ei gariad, Reeva Steenkamp, y llynedd.

Cafwyd yr athletwr yn euog o ddynladdiad ym mis Medi.

Safodd Pistorius yn y llys yn syllu yn syth o’i flaen wrth i’r Barnwr Thokozile Masipa gyhoeddi’r ddedfryd.

Dywedodd y barnwr y byddai peidio ei garcharu “wedi anfon y neges anghywir i’r gymuned.”

Yn ogystal, cafodd Pistorius, 27 oed, ddedfryd o dair blynedd, wedi’i ohirio am bum mlynedd, am drosedd yn ymwneud a drylliau.

Mae’r amddiffyniad wedi awgrymu y gallai Pistorius dreulio cyn lleied a 10 mis yn y carchar.

Roedd Pistorius wedi lladd Reeva Steenkamp ar ddydd San Ffolant y llynedd pan daniodd gwn drwy ddrws yr ystafell ymolchi yn ei gartref.

Roedd yr athletwr yn honni ei fod yn credu mai lleidr oedd y tu ôl i’r drws.

‘Dedfryd rhy fyr’

Ond mae elusen trais yn y cartref wedi dweud bod dedfryd Oscar Pistorius yn un “pryderus o fyr.”

Dywedodd Polly Neate, prif weithredwr elusen Cymorth i Fenywod, bod yr elusen yn “siomedig” gyda’r ddedfryd o ystyried “difrifoldeb y drosedd.”

Yn y cyfamser, meddai Bethan Cansfield, rheolwr polisi gydag elusen Womankind Worldwide, fod trais yn erbyn menywod yn “bandemig byd-eang”, a dywedodd bod dedfrydau byr yn cyfleu’r neges anghywir.

Wrth adael y llys dywedodd mam Reeva Steenkamp, June, ei bod yn “fodlon” gyda’r ddedfryd.