Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cadarnhau bod yr achosion o Ebola yn Senegal wedi dod i ben.

Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd eu bod nhw’n canmol y wlad am lwyddo i ddiddymu’r haint.

Mewn datganiad, dywedodd y sefydliad fod yr haint wedi’i gyflwyno i’r wlad ar Awst 29, a bod yr awdurdodau wedi dangos “esiampl dda o’r hyn sy’n rhaid ei wneud wrth wynebu achos o Ebola’n cael ei fewnforio”.

Mae llywodraeth Senegal wedi monitro 74 o bobol sydd wedi dod i gyswllt â’r claf Ebola cyntaf, ac wedi cynnal profion arnyn nhw.

Roedden nhw hefyd wedi trefnu nifer o ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o’r haint.