Oscar Pistorius
Mae cyfnither Reeva Steenkamp wedi dweud wrth wrandawiad fod yn rhaid i’r athletwr Oscar Pistorius “dalu am beth wnaeth” i’w gyn-gariad.

Fe wnaeth Kim Martin y datganiad wrth y gwrandawiad fydd yn penderfynu dedfryd Pistorius, ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o ladd y fodel y llynedd.

Dywedodd Martin nad oedd ei theulu’n edrych i “ddial” ar Pistorius, ond fod angen iddo gael ei “gosbi’n ddigonol” ac nad oedd hi’n fodlon â’r ymddiheuriad a roddodd Pistorius i deulu Steenkamp yn y llys.

Ar hyn o bryd mae’r barnwr yn y llys yn Pretoria, Thokozile Masipa, yn gwrando ar dystiolaeth tystion cyn penderfynu beth fydd dedfryd Pistorius.

Mae’r erlyniad wedi gofyn am ddedfryd hir o garchar i’r cyn-bencampwr Paralympaidd, ond mae cyfreithwyr Pistorius yn dadlau o blaid dedfryd o dair blynedd wedi’i garcharu yn ei gartref.