Malala Yousafzai
Mae Malala Yousafazi, merch ysgol o Bacistan a gafodd ei saethu gan y Taliban am ymgyrchu dros hawliau merched i dderbyn addysg, wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel 2014.

Mae’n rhannu’r wobr gyda Kailash Satyarthi, 60, sy’n ymgyrchydd dros hawliau plant yn India.

Cafodd Malala ei saethu yn ei phen ar ei bws ysgol yn Hydref 2012 gan eithafwyr o’r Taliban wedi iddi alw am hawliau cyfartal i fenywod.

“Er ei bod yn ifanc, mae Malala Yousafazi yn barod wedi ymladd ers sawl blwyddyn dros hawliau merched i dderbyn addysg, ac mae wedi dangos drwy esiampl bod plant a phobl ifanc hefyd yn gallu cyfrannu at wella eu sefyllfaoedd,” meddai’r Pwyllgor Nobel Norwyeg.

“Trwy ei brwydr arwrol, mae hi wedi dod yn llefarydd blaenllaw dros hawliau merched i addysg.”

Enillwyr deng mlynedd diwethaf y Wobr Heddwch Nobel

2013 – Sefydliad ar gyfer Gwahardd Arfau Cemegol (OPCW)

2012 – Yr Undeb Ewropeaidd

2011 – Ellen Johnson Sirleaf, Leymah Gbowee a Tawakkol Karman

2010 – Liu Xiaobo

2009 – Barack Obama

2008 – Martti Ahtisaari

2007 – Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) ac Albert Arnold (Al Gore Jr.)

2006 – Muhammad Yunus a Grameen Bank

2005 – Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol (IAEA) a Mohamed ElBaradei

2004 – Wangari Muta Maathai