Mynydd Ontake
Mae pedwar yn rhagor o gyrff wedi cael eu darganfod ger copa llosgfynydd yn Japan a oedd wedi ffrwydro wythnos yn ôl.

Mae 51 o bobl bellach wedi marw ers y digwyddiad.

Mae mwy na 900 o weithwyr achub wedi ailddechrau’r gwaith o chwilio’r llethrau heddiw ar ôl i law trwm eu gorfodi i roi’r gorau i’r chwilio ddoe.

Cafodd y pedwar corff eu darganfod ger copa Mynydd Ontake. Roedd nifer o gerddwyr wedi bod yn cael saib ar y safle pan ffrwydrodd y llosgfynydd yn ddirybudd.

Dywed yr awdurdodau bod y rhan fwyaf o’r rhai fu farw wedi cael eu taro gan gerrig.