Steve Rosenberg (o'i gyfrif Twitter)
Mae gohebydd Moscow y BBC, Steve Rosenberg, ymhlith tri o bobol sydd wedi cael eu hanafu yn dilyn ymosodiad arnyn nhw yn Rwsia.

Cafodd cynhyrchydd a dyn camera eu hanafu yn ystod y digwyddiad hefyd ac mae awdurdodau Rwsia wedi galw am ymchwiliad.

Cafodd deunydd a gafodd ei recordio ei ddileu gan y sawl oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Mae’r dyn camera yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ond ar ei dudalen Twitter, mae Steve Rosenbert yn dweud, “R’yn ni’n fyw ac yn ddiogel”.

Cefndir

Daw’r ymosodiad yn dilyn honiadau bod milwyr o Rwsia wedi cael eu lladd ger y ffin gyda’r Wcráin, ac roedd y tîm newyddion yn ffilmio yn ninas Astrakhan ne Rwsia.

Mae’r BBC wedi galwr’r ymosodiad yn “ymgais i atal newyddiadurwyr oedd wedi’u hachredu rhag adrodd am stori newyddion ddilys”.