Mae milwyr llywodraeth Syria wedi ennill y frwydr am reolaeth un ardal strategol ger y brifddinas, Damascus.

Mae lluoedd sy’n deyrngar i’r Arlywydd Bashar Assad bellach yn rheoli canol tre’ Mleiha, tra bod yr ymladd yn parhau mewn ardaloedd cyfagos.

Mae asiantaeth newyddion y wladwriaeth wedi cyheddi fod “nifer mawr” o derfysgwyr wedi cael eu lladd yn Mleiha, wrth i’r lluoedd barhau i chwilio am ddynion arfog, peryglus, eraill yng ngogledd y dre’.

Am fisoedd, mae’r llywodraeth wedi bod yn ymosod ar yr ardal yn ddigyfaddawd, gan ollwng bomiau o’r awyr er mwyn ceisio gorfodi’r rebeliaid allan.

Mae’r dre’ yn un strategol iawn oherwydd ei bod ar fin y briffordd i faes awyr Damascus, ac ar ymyl deheuol Ghouta.