Mae dirprwy sheriff wedi saethu’n farw y dyn anghywir, yn dilyn gwarchae mewn ty yn Los Angeles.

Roedd dyn a gafodd ei ryddhau o’r carchar ar barôl, wedi cymryd gwraig dyn arall yn gaeth yn ei chartre’… ond mewn cyfnod o saethu, fe laddwyd y gwr yn hytrach na’r cyn-garcharor.

Fe barodd y gwarchae am wyth awr yn ardal Pico Rivera, gan ddiweddu wrth i blismyn uned arbennig SWAT dorri i mewn i’r ty a lladd y dyn anghywir.