Mae tri o bobol wedi marw, a nifer wedi cael eu hanafu, wedi i fws twristiaid o’r Swistir fynd ar ei ben i ochr mynydd yng nghanolbarth Norwy.

Mae’r teithiwr a gafodd ei anafu waetha’ wedi’i gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn ninas Namsos gerllaw.

Roedd 17 o bobol yn teithio ar y bws pan ddigwyddodd y ddamwain.