Mae’r afiechyd, Ebola, wedi lladd dros 660 o bobol yng ngorllewin Affrica… ac mae nawr wedi cyrredd Nigeria.

Yr wythnos hon, fe fu dyn o Liberia yn gwyno fod ganddo wres uchel ar awyren i Nigeria. Wedi iddo cyfogi ar yr awyren, fe fu farw wedi cyrraedd pen ei daith.

Roedd y dyn 40 oed newydd golli ei chwaer i’r afiechyd.

Dyw hi ddim yn glir eto sut y gallodd fynd ar fwrdd yr awyren, ond fe gafodd ei gludo’n syth i’r ysbyty wedi i’r awyren lanio yn Nigeria ddydd Mawrth. Bu farw ddoe.

Mae llywodraeth Nigeria wedi cadarnhau mai dyma’r achos cynta’ o Ebola yn y wlad. Mae’r afiechyd eisoes wedi taro Guinea, Liberia a Sierra Leone.