Mae’r Almaen wedi anrhydeddu grwp o swyddogion gwrth-Natsïaidd a geisiodd ladd Adolf Hitler 70 mlynedd yn ôl.

Mae’r cynllwyn wedi bod yn sail i ffilmiau fel Valkyrie, ac mae wedi llwyddo i sefydlu egwyddor y gall unrhyw filwr yn yr Almaen wrthod ufuddhau i orchmynion os ydyn nhw’n credu y byddai gweithredu’n achosi loes, yn torri’r gyfraith, neu’n amharchu hawliau dynol.

Mewn seremoni deimladwy yn ninas Berlin, fe alwodd Arlywydd yr Almaen, Joachim Gauck, y weithred o fomio pencadlys Hitler ar Orffennaf 20, 1944, yn “ddiwrnod mawr yn hanes yr Almaen” er mwyn dangos fod yna Almaenwyr yn gwrthwynebu’r drefn Natsïaidd.

Fe oroesodd Hitler yr ymosodiad, ac fe aeth rhagddo trwy Ewrop am flwyddyn arall.