Bu farw’r actor, James Garner, seren y ffilm ‘Maverick’ a ‘The Rockford Files’. Roedd yn 86 oed.

Fe’i cafwyd yn farw yn ei gartre’ yn Brentwood, Los Angeles, neithiwr. Roedd wedi marw’n naturiol, meddai’r heddlu.

Roedd James Garner wedi cael stroc ym mis Mai 2008, ychydig wythnosau wedi ei ben-blwydd yn 80 oed.

Roedd wedi parhau i actio ymhell i’w 70au.