Tarw yng ngŵyl San Fermin
Mae awdur o America sydd wedi ysgrifennu llyfrau ynghylch sut i amddiffyn yn erbyn ymosodiadau gan deirw wedi cael ei anafu yn ystod gŵyl ymladd teirw San Fermin yn Pamplona yn Sbaen.

Roedd yr Americanwr ymhlith nifer o bobol a gafodd eu hanafu pan redodd y tarw tuag atyn nhw yn ystod ras ar bedwerydd diwrnod yr ŵyl.

Dioddefodd anafiadau difrifol ond dydyn nhw ddim yn peryglu’i fywyd.

Cafodd nifer o bobol eu taflu i’r awyr yn ystod y digwyddiad.

Cafodd dau ddyn anafiadau i’w coesau a chafodd pump o bobol eraill eu cludo i’r ysbyty â mân anafiadau yn gynnar y bore ma.

Roedd y tarw wedi rhedeg o flaen gweddill y pac yn syth i ganol y dorf wrth gwblhau’r ras 930 llathen i ganol cylch ymladd teirw.

Mae’r ŵyl a ddaeth yn enwog trwy lyfr Ernest Hemingway, ‘The Sun Also Rises’ yn para naw niwrnod ac mae’n denu miloedd o dwristiaid bob blwyddyn.

Ymhlith y rhai gafodd eu hanafu ddoe roedd dyn 23 oed o Nottingham, ac mae’n parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, yn ogystal â dyn arall o Siapan.

Yn dilyn ras y bore, mae’r teirw gymerodd ran fel arfer yn mynd i’r cylch ymladd teirw yn y prynhawn.