Roedd 100,000 o bobol wedi gorymdeithio dros y penwythnos o blaid diogelu addysg Gatalaneg ac i ddangos cefnogaeth i ddyn sy’n ymprydio dros yr iaith.

Mae 40 diwrnod ers i Jaume Sastre ddechrau ei ympryd er mwyn galw am addysg gyflawn i blant yn y Gatalaneg ac mae meddygon wedi rhybuddio ei fod “ar gyffordd dyngedfennol.”

Cafodd y rali yn Barcelona ei threfnu gan fudiad Som Escola er mwyn galw am addysg Gatalaneg i bawb yn wyneb pryderon diweddar fod addysg Gatalaneg yn cael ei bygwth.

Mae pump o deuluoedd wedi dwyn achos cyfreithiol er mwyn newid polisi llywodraeth Catalonia o drochi plant yn y Gatalaneg. Roedd dyfarniad barnwrol ym mis Ionawr  yn dweud y dylai disgyblion gael o leiaf 25% o’u haddysg trwy gyfrwng y Sbaeneg os mai dyna yw eu dymuniad.

Mae Gweinidog Addysg Sbaen , José Ignacio Wert, wedi cyflwyno mesurau er mwyn gwneud Sbaeneg yn bwnc craidd a chaniatáu i bobol ddewis cael addysg Sbaeneg ei chyfrwng ar draws Sbaen, gan gynddeiriogi ymgyrchwyr iaith yng Nghatalonia a Gwlad y Basg.