Ynys Barbados
Yn ôl adroddiadau, mae dyn o Brydain wedi cael ei drywanu i farwolaeth ar ynys Barbados yn y Caribî.

Cafodd y dyn ei drywanu yn ei frest yn gynnar bore ddoe, yn ôl papur newydd Barbados Today.

Yn ôl yr adroddiadau roedd wedi bod mewn ffrae gyda dyn lleol yn St Lawrence Gap, Christ Church yn ne orllewin yr ynys, sy’n boblogaidd gyda thwristiaid.

Nid yw enw’r dyn wedi cael ei gyhoeddi.