Un o draethau Bali (Llun: Wikipedia)
Mae athrawes o Hinckley, Swydd Gaerlŷr wedi cael ei llofruddio ar Ynys Bali yn Indonesia.

Daethpwyd o hyd i gorff Anne-Marie Drozdz mewn tŷ ble roedd hi’n aros yn Ubud dydd Iau ac yn ôl papur y Jakarta Post mae dyn lleol bellach wedi cael ei arestio ar amheuoedd o’i llofruddio.

Yn ôl y papur fe allai’r llofruddiaeth fod yn gysylltieidig â bwrgleriaeth.

‘Dyw’r Swyddfa Dramor ddim wedi cadarnhau unrhyw fanylion ond dywedodd llefarydd eu bod yn ymwybodol bod rhywun o Brydain wedi wedi marw yn Bali a’u bod yn cynorthwyo’r teulu.

Roedd Ms Drozdz yn ei deugeiniau hwyr ac wedi teithio’r byd yn dysgu mewn ysgolion rhyngwladol.

Dywedodd ei brawd Gregory ei  bod wedi mynd i Bali i weithio ar gynllun cymdeithasol i wella safon byw pobl ifanc yr ynys.