Fe fu farw carcharor yn Oklahoma o drawiad ar y galon ar ôl i’r awdurdodau fethu yn eu hymgais i’w ddienyddio.

Defnyddiodd swyddogion y carchar gyfuniad newydd o gyffuriau ar Clayton Lockett, 38, oedd wedi’i ganfod yn euog o ladd dynes 19 oed.

Dywedodd yr awdurdodau fod Lockett yn anymwybodol ddeg munud wedi iddo dderbyn y pigiad marwol cyntaf.

Ond munudau’n ddiweddarach, fe ddechreuodd anadlu’n drwm eto ac roedd mewn poen ddychrynllyd.

Cafodd llenni o’i gwmpas eu cau fel nad oedd modd i’r oriel gyhoeddus weld yr hyn oedd yn digwydd.

Bu farw’n ddiweddarach o drawiad ar y galon.

Yn ôl cyfraith yr Unol Daleithiau, ni ddylai ymdrechion i ddienyddio fod yn greulon nac yn anarferol.

Cyfuniad newydd o gyffuriau

Mae pryderon ers rhai misoedd tros y cyfuniad newydd o gyffuriau, ac mae rhai cwmnïau wedi rhoi’r gorau i’w gwerthu nhw i garchardai.

Hwn oedd y tro cyntaf i’r cyffur midazolam gael ei ddefnyddio fel y prif ddull o ddienyddio yn y dalaith, er ei fod wedi cael ei ddefnyddio mewn cyfuniad â chyffuriau eraill yn y gorffennol.

Mae’n gweithredu fel cyffur sy’n gwneud i’r carcharor fynd yn anymwybodol, cyn cael ei barlysu gan yr ail gyffur.

Mae’r trydydd cyffur yn y cyfuniad yn atal y galon.

Yn sgil y trafferthion, cafodd dienyddiad carcharor arall ei ohirio am 14 diwrnod, ac mae disgwyl i arolwg llawn gael ei gynnal.

Roedd y ddau garcharor eisoes wedi dwyn achos yn erbyn talaith Oklahoma am iddyn nhw wrthod dweud o ble roedden nhw’n prynu’r cyffuriau.

Cafodd dienyddiad Lockett ei ohirio am wythnos o ganlyniad i’r achos.