Mae adroddiadau fod awyren o Awstralia wedi cael ei herwgipio a’i gorfodi i lanio yn Indonesia bellach wedi cael eu gwadu.

Mae’n ymddangos mai teithiwr meddw oedd yn gyfrifol am yr argyfwng pan alwyd milwyr at yr awyren yn Bali.

Fe ddaeth y stori o gyfeiriad Llu Awyr Indonesia am un o awyrennau Virgin Australia a oedd wedi hedfan o Brisbane y bore yma.

Roedd dryswch o’r dechrau am fod yr awyren Boeing 737 wedi glanio yn Bali – dyna ble’r oedd hi i fod i fynd.

Roedd milwyr wedi meddiannu’r awyren ac mae un person yn cael ei holi.