Mae pennaeth yr Eglwys Babyddol wedi bod yn golchi traed dwsin o bobol anabl a’r henoed – yn cynnwys merched a phobol nad ydyn nhw’n Gatholigion.

Bwriad y ddefod cyn y Pasg ydi dangos ei awydd a’i fodlonrwydd i wasanaethu eraill.

Y llynedd, fe benderfynodd olchi traed merched a charcharorion Mwslimaidd – gan wylltio rhai o’i eglwys ei hun.

Eleni, fe benderfynodd Pab Ffransis ymweld a chanolfan i’r anabl yn Rhufain, gan blygu ar ei liniau, golchi, sychu a chusanu traed y trigolion yno. Roedd rhai mewn cadeiriau olwyn, a thraed rhai eraill yn ddiolwg a chwyddiedig.