Y Dalai Lama
Fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau yn cwrdd â’r Dalai Lama o Tibet, er gwaetha’ bygythiadau gan Lywodraeth China.

Fe fydd Barack Obama’n cwrdd â’r arweinydd crefyddol yn y Tŷ Gwyn y bore yma – y trydydd cyfarfyddiad rhyngddyn nhw.

Y ddau dro o’r blaen, mae China wedi dweud fod hynny wedi difrodi’r berthynas rhwng y ddwy wlad.

Canslo

Maen nhw wedi galw ar yr Arlywydd i ganslo’r cyfarfod gyda’r Dalai Lama sy’n cael ei weld yn symbol o ryddid Tibet sydd bellach wedi ei goresgyn gan China.

“Mae’r cyfarfod sydd wedi ei drefnu rhwng arweinydd yr Unol Daleithiau a’r Dalai Lama yn ymyrraeth ddifrifol yng ngwleidyddiaeth fewnol China,” meddai Hua Chunying, llefarydd ar ran swyddfa dramor China.

Fe ymatebodd y Tŷ Gwyn trwy ddweud eu bod nhw’n derbyn bod Tibet yn rhan o China ond eu bod yn poeni am hawliau dynol yno.