Enda Kenny, darpar brif weinidog Iwerddon (o wefan Wikipedia)
Mae darpar Taoiseach Iwerddon, Enda Kenny, ar fin ffurfio llywodraeth ar ôl i’w blaid Fine Gael gefnogi cytundeb clymblaid â Llafur.

Mae’r ddwy blaid wedi cytuno ar raglen o lywodraeth ar ôl trafodaethau a barhaodd hyd oriau mân y bore yma.

“Rydym yn edrych ymlaen at ffurfio llywodraeth sefydlog a chryf i Iwerddon a’i phobl,” meddai.

O dan raglen llywodraeth y glymblaid, fe fydd uwch-weinyddiaeth economaidd newydd yn cael ei sefydlu, a fydd yn ceisio aildrafod y benthyciadau gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol a arbedodd y wlad rhag methdaliad y llynedd.

O dan y cynllun yma, fe fydd yr Adran Gyllid bresennol yn cael ei hollti’n ddwy.

Fe fydd y gweinidog newydd dros gyllid yn edrych ar ôl cyllidebau a threthi tra bydd gweinidog dros amcangyfrifon a diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn gyfrifol am wario ac ail-wampio’r sector cyhoeddus.

Fe fydd y ddau weinidog yma, a dau arall, un o bob plaid, yn ffurfio cyngor economaidd – rhyw fath o uwch-weinyddiaeth – o fewn y cabinet.

Fydd y cyngor ddim yn atebol i’r Taoiseach a ganddyn nhw fydd y grym uchaf dros gyfeiriad economaidd y wlad wrth iddi geisio adfer o’r argyfwng ariannol.