Silvio Berlusconi
Mae arlywydd yr Eidal yn ymgynghori ag arweinyddion gwleidyddol y wlad i weld os oes gan arweinydd y Blaid Ddemocrataidd, Matteo Renzi, ddigon o gefnogaeth i ffurfio llywodraeth newydd.

Ymysg y gwleidyddion y bydd Giorgio Napolitano yn gyfarfod heddiw mae Silvio Berlusconi.

Mae Berlusconi yn parhau i fod yn ffigwr dylanwadol ym myd gwleidyddol yr Eidal er waetha’r ffaith ei fod wedi colli ei sedd yn y senedd ar ôl iddo gael ei ddedfrydu’n euog o dwyll yn ymwneud â threth.

Petai Mr Renzi yn ffurfio llywodraeth newydd, mi fyddai’n rhaid i’r llywodraeth honno ennill pleidlais o hyder yn y Senedd.