Els Borst
Mae Els Borst, cyn weinidog iechyd yr Iseldiroedd, a oedd wedi chwarae rhan flaenllaw yn y broses o gyfreithloni ewthanasia, wedi cael ei darganfod yn  farw mewn garej yn ei chartref.

Roedd hi’n 81 oed ac wedi ymddangos mewn digwyddiad gwleidyddol ddydd Gwener.

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw wedi diystyru ei bod wedi marw o achosion naturiol, neu’n ddamweiniol ac nad oes ganddyn nhw reswm i feddwl bod trosedd wedi’i chyflawni.

Roedd Els Borst yn weinidog iechyd rhwng 1994 a 2002.