Amanda Knox (PA)
Bydd llys yr yn Eidal yn penderfynu heddiw a ddylai’r penderfyniad gwreiddiol yn achos llofruddiaeth y Saesnes Meredith Kercher gael eu hadfer.

Fe fyddai hynny’n golygu bod yr Americanes Amanda Knox a’i chyn-gariad Raffaele Sollecito yn euog o lofruddio’r fyfyrwraig ifanc.

Roedd y ddau wedi cael eu rhyddhau ar apêl yn 2011, ddwy flynedd ar ôl i lys eu cael yn euog.

Ym mis Mawrth y llynedd, roedd Goruchaf Lys yr Eidal wedi gorchymyn achos newydd gan feirniadu’r llys apêl am ddiystyru tystiolaeth DNA bwysig.

Fe dreuliodd Amanda Knox, 26, bedair blynedd yn y carchar cyn cael ei rhyddhau ar apêl. Mae hi wedi mynnu ei bod yn ddieuog.

Beth bynnag fydd canlyniad yr achos, fydd yna ddim dedfryd derfynol  nes i’r Goruchaf Lys yn yr Eidal ei chadarnhau – proses a all gymryd misoedd.

Meredith Kercher

Cafwyd hyd i Meredith Kercher, 21 oed, o dde Llundain, yn farw yn y fflat roedd yn ei rannu gydag Amanda Knox yn Perugia yn yr Eidal yn 2007. Roedd ei gwddw wedi ei thorri.

Cafodd dyn arall, Rudy Guede o’r Traeth Ifori, ei gyhuddo o’i llofruddio mewn achos ar wahân a’i ddedfrydu i 16 mlynedd yn y carchar.

Fydd Amdana Knox, sy’n wreiddiol o’r Unol Daleithiau, ddim yn y llys yn Firenze heddiw.