Mae diplomydd o Iran wedi’i saethu’n farw ym mhrifddinas Yemen, Sanaa.

Mae tystion yn dweud fod y diplomydd yn gaeal cartre’ llysgennad Iran yn ardal Hadda o’r ddinas, pan basiodd y saethwyr heibio mewn car a thanio ato.

Fe gafodd y diplomydd, a oedd yn gyfrifol am weinyddiaeth y llysgenhadaeth, ei anafu’n ddifrifol, a bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae’r berthynas rhwng Iran a Yemen wedi suro rhyw gymaint dros yr hyn y mae gwleidyddion Sanaa yn ei alw’n “ymyrraeth” gan Iran ym materion cartre’ Yemen.