Mae Arlywydd Rwsia wedi dweud fod croeso i bobl hoyw ddod i’r wlad yn ystod cyfnod Gemau Olympaidd y Gaeaf – ond iddyn nhw adael llonydd i blant.

Daeth sylwadau Vladimir Putin wrth iddo ymweliad â Sochi, y ddinas fydd yn cynnal y gemau mewn tair wythnos.

Dywedodd y byddai croeso i ymwelwyr hoyw, ac nad oedd yn rhaid iddyn nhw boeni am gael eu trin yn annheg.

Ond fe bwysleisiodd hefyd nad oedd gan bobl hawl i draethu “propaganda” hoyw i unrhyw un o dan oed, yn unol â deddf gafodd ei phasio yn y wlad yn ddiweddar.

‘Ymlaciwch’

Dywedodd Putin mai pwrpas y ddeddf oedd amddiffyn plant – ond mae gwrthwynebwyr yn honni ei fod gwahaniaethu ar sail rhywioldeb pobl.

“Does gennym ni ddim gwaharddiad yn erbyn perthnasau rhywiol sydd ddim yn draddodiadol,” meddai Putin mewn sylwadau gafodd eu hadrodd gan gyfryngau Rwsia. “Mae gennym ni waharddiad ar bropaganda hoyw a phedoffilia.

“Does dim cosb am y math yna o berthnasau [hoyw]. Gallwch ymlacio am y peth, does dim rhaid poeni, ond gadewch blant lonydd os gwelwch yn dda.”

Mae’r hawl i brotestio wedi cael ei gyfyngu cyn y gemau, fydd yn cael eu cynnal rhwng 7 a 23 o Chwefror.

Nid yw’n eglur eto a fydd athletwyr fydd yn datgan eu cefnogaeth yn gyhoeddus i achos bobl hoyw, gyda baneri ‘enfys’ neu debyg, yn cael eu harestio os gwnawn nhw hynny.