Pavel Dmitrichenko
Mae dawnsiwr bale yn Theatr y Bolshoi yn Rwsia wedi ei gael yn euog am drefnu ymosodiad asid ar gyfarwyddwr artistig y theatr.

Penderfynodd y llys fod Pavel Dmitrichenko a dau o’i gyd weithredwyr yn euog o gynllwynio’r ymosodiad gan achosi niwed corfforol difrifol i Sergei Filin, cyfarwyddwr artistig y Bolshoi.

Dioddefodd Sergei Filin, 42 oed, losgiadau difrifol i’w lygaid a’i wyneb ar Ionawr 17 pan daflodd ymosodwr cudd asid sylffwrig yn ei wyneb wrth iddo ddychwelyd adref i’w fflat.

Theatr y Bolshoi yw un o brif sefydliadau diwylliannol Rwsia ac mae’r achos wedi datgelu’r trafferthion o fewn y cwmni sydd wedi arwain at ymadawiad sawl cyfarwyddwr artistig dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae disgwyl i Dmitrichenko, 29, gael ei ddedfrydu heddiw ac mae’n wynebu cyfnod yn y carchar.