Y Dail, senedd-dy Iwerddon
Mae’n ymddangos yn fwyfwy sicr y bydd Iwerddon yn  cael ei llywodraethu gan glymblaid rhwng Fine Gael a Llafur gyda’r mwyafrif mwyaf yn hanes yn wlad.

Gyda 150 allan o’r 165 o seddau yn y Dail bellach wedi eu llenwi, mae’r canlyniadau diweddara’n cadarnhau’r newid llwyr yng ngwleidyddiaeth y wlad.

Mae Enda Kenny, arweinydd Fine Gael, eisoes wedi addo mai un o’r pethau cyntaf y bydd yn ei wneud fel Taioseach fydd ceisio cyfradd llog is ar fenthyciadau i Iwerddon i gynnal ei banciau a’i gwasanaethau cyhoeddus.

Mae strategwyr Fine Gael o’r farn y bydd clymblaid sefydlog gyda Llafur yn rhoi arwydd i wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd fod ar bobl Iwerddon eisiau ail-drafod y cytundeb ariannol.

Fe ddywedodd bod llwyddiant ei blaid, Fine Gael, yn chwalu hen lywodraeth Fianna Fail yn  “chwyldro democrataidd trwy’r blwch pleidleisio”.

Mae’n gobeithio cwblhau trafodaethau gyda’r Blaid Lafur ‘o fewn y dyddiau nesa’.

Ac eithrio etholaethau Dwyrain a Gorllewin Galway, lle mae ailgyfri’n digwydd, a Wicklow a Laois-Offaly, lle mae seddau’n dal yn wag, mae’r cyfrif wedi gorffen ym mhob etholaeth.

Dyma sefyllfa ddiweddara’r pleidiau, gyda 15 sedd eto i’w llenwi:

Fine Gael: 68

Llafur: 35

 Fianna Fail: 17

 Annibynnol: 13

 Sinn Fein: 13

 Cynghrair Unedig y Chwith: 4