Y gorchudd ia'n cilio yn sgil cynhesu byd-eang (llun o wefan WWF)
Mae cyfaddawd munud olaf wedi cael ei gytuno yn nhrafodaethau’r Cenhedloedd Unedig yn Warsaw ar newid yn yr hinsawdd.

Roedd y gobeithion am gytundeb yn pylu wrth i China ac India wrthwynebu cynigion yr Unol Daleithiau a gwledydd cyfoethog eraill ar sut i geisio lleihau cynhesu byd-eang.

Mae’r cyfaddawd yn golygu y bydd y cytundeb newydd yn galw ar bob gwlad i wneud ‘cyfraniadau’ yn hytrach nag ‘ymrwymiadau’ tuag at leihau gollyngiadau carbon. Mae disgwyl i’r cytundeb gael ei fabwysiadu yn 2015.