Y papur lleol yn adrodd am y corwyntoedd
Mae chwech o bobol wedi cael eu lladd mewn cyfres o gorwyntoedd a stormydd yn yr Unol Daleithiau.
Mae nifer o adeiladau wedi cael eu difrodi yn y stormydd gan gynnwys rhai yng nghanol dinas Chicago.
Bu farw dyn oedrannus a’i chwaer ar ôl i gorwynt ddifrodi eu cartref yn Illinois, meddai’r crwner Mark Styninger.
Mae’r adrannau brys yn Illinois hefyd wedi cadarnhau bod pedwar o bobol eraill wedi eu lladd ond does dim manylion pellach.