Enda Kenny, darpar brif weinidog newydd Iwerddon (o wefan Wikipedia)
Er bod llawer o waith cyfrif y pleidleisiau eto i’w wneud ar ôl etholiad cyffredinol Iwerddon ddoe, mae’n amlwg bellach mai Enda Kenny, arweinydd Fine Gael, fydd Taoiseach newydd y wlad.

Mae disgwyl y bydd Fine Gael wedi ennill dros 70 o seddau, sy’n golygu mai hi fydd y blaid fwyaf o bell ffordd yn senedd Iwerddon, y Dail – ond yn fyr o fwyafrif llwyr.

Fe all y llywodraeth newydd fod naill ai’n glymblaid rhwng Fine Gael a Llafur, neu os bydd ganddi ddigon o seddau fe allai Fine Gael ddewis llywodraethu ei hun gyda chefnogaeth aelodau annibynnol.

“Mae heddiw’n ddiwrnod mawr i blaid Fine Gael,” meddai Enda Kenny.

“Ein nod cyntaf oedd bod y blaid fwyaf yn y Dail ac mae hynny wedi ei wireddu. Yr ail nod oedd cynyddu’n pleidlais a’n seddau ac mae hynny hefyd wedi ei wireddu.

“Fyddwn ni ddim yn gwybod y canlyniadau terfynol, hyd nes y bydd ail ddewisiadau pleidleiswyr Fianna Fail wedi cael eu cyfrif, a gall hyn effeithio ar y canlyniad cyffredinol.

“Y wers o’r etholiad yma yw na ddylai unrhyw lywodraeth ymbelláu eu hunain oddi wrth y bobl. Mae’r bobl wedi pleidleisio ac wedi rhoi eu hateb a chael gwared ar y llywodraeth sydd wedi ymbelláu oddi wrthynt dros y blynyddoedd diwethaf.”

Un o’r aelodau cyntaf i gael eu hethol oedd llywydd Sinn Fein, Gerry Adams, a enillodd ar y bleidlais gyntaf yn swydd Louth. Dyma’r tro cyntaf iddo sefyll am sedd yn y Dail, ac mae disgwyl y bydd Sinn Fein yn dyblu nifer eu seddau i tua 10.

Mae rhagolygon y bydd Fianna Fail yn dal llai na 30 o’r 165 o seddau yn y Dail ar ôl i’r cyfrif ddod i ben.