David Cameron mewn cynhadledd i'r wasg yn Sri Lanka
Mae llywodraeth Sri Lanka wedi gwrthod galwad David Cameron am ymchwiliad rhyngwladol i’r honniadau o gamdrin iawnderau dynol yn erbyn pobl y Tamil s’yn byw yng ngogledd y wlad.

Mae yna adroddiadau bod y Tamiliaid wedi cael eu camdrin ar ôl i’r rhyfel cartref yn Sri Lanka ddod i ben yn 2009.

Mae Mr Cameron yn Sri Lanka ar gyfer cynhadledd gwledydd y Gymanwlad ond mae prif weinidogion Canada, India a Mauritius wedi penderfynu cadw draw o’r gynhadledd mewn protest ynglyn â’r honniadau.

Ar ô li Mr Cameron annog y Llywydd Mahinda Rajapaksa i gytuno i’r ymchwiliad annibynnol, dywedodd yr Uwch-Weinidog Basil Rajapaksa, sy’n frawd i’r Arlywydd, na fydd ymchwilaid “yn cael ei ganiatau ar unrhyw gyfrif.”

Mae llywodraeth Sri Lanka yn cnnal eu hymchwiliad eu hunain gan wadu bod pobl wedi cael eu lladd at ddiwedd y rhyfel pan wnaeth byddin y llywodraeth drechu’r Tamil Tigers.