Sachin Tendulkar (llun Wikipedia)
Mae’r cricedwr o fri Sachin Tendulkar yn chwarae ei 200fed prawf, a’i olaf cyn ymddeol, dros India heddiw wrth iddyn nhw herio India’r Gorllewin.

Mae’r gŵr 40 oed o Mumbai wedi chwarae dros ei wlad ers 24 mlynedd, ac yn y cyfamser wedi sgorio 15,847 o rediadau mewn gemau prawf rhyngwladol, gan ddod i sgoriwr mwyaf o rediadau mewn criced rhyngwladol.

Daeth i’r maes yn ei ddinas enedigol heddiw ar ôl i India fowlio India’r Gorllewin allan am 182 rhediad, wedi i India golli dwy wiced am 77 rhediad – a chael gard anrhydedd gan chwaraewyr y gwrthwynebwyr.

Mae Tendulkar wedi mwynhau un o’r gyrfaoedd mwyaf disglair a welwyd erioed yn hanes criced, ac wedi chwarae 199 o brofion ers ei gyntaf yn erbyn Pacistan yn 1989.

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi sgorio 51 canrif a 67 hanner-canrif, gyda chyfartaledd o 53.71 rhediad.

Mae wedi rhagori mewn gemau rhyngwladol undydd hefyd, gan sgorio 18,426 rhediad gyda chyfartaledd o 44.83. Roedd hyn yn cynnwys 49 canrif a 96 hanner-canrif.

Cadarnhaodd y mis diwethaf mai hon fyddai ei brawf olaf, gan sbarduno cyffro llwyr wrth i bobl India geisio cael tocynnau ar gyfer y gêm olaf.

Mae rhai o fawrion y gêm, gan gynnwys y batiwr Brian Lara o India’r Gorllewin, a’r bowliwr o Awstralia Shane Warne, wedi talu teyrnged iddo hefyd am ei orchestion yn ystod ei yrfa.

Dywedodd Warne na fyddai un arall tebyg i Tendulkar ac mai “ef oedd y batiwr gorau o’i genhedlaeth”.