Y robotiaid
Mae’r marathon robotiaid cyntaf wedi dechrau yng ngorllewin Japan heddiw, gyda phum cystadleuydd ar ddau goes yn rasio’i gilydd ar drac dan-do.

Mae’r robotiaid 30cm o daldra yn teithio ar hyd trac 100m, nes y bydd un ohonynt yn cwblhau’r ras 26 milltir.

Dywedodd y gwneuthurwr robotiaid, a threfnydd y digwyddiad, Vstone, mai nod y marathon robotiaid yn Osaka oedd datblygu robotiaid sy’n gallu teithio dros bellteroedd mawr.

Robotiaid Vstone oedd ar y blaen ar ddechrau’r ras, tra bod dau ymgais gan dîm peirianneg Prifysgol Osaka ar ei hol hi’n barod.

Mae disgwyl i’r ras barhau nes ddydd Sul.

Dywedodd prif weithredwr Vstone, Nobuo Yamato, ei fod e’n gobeithio y bydd y marathon robotiaid yn gamp ryngwladol ryw ddydd.